| Artistiaid |
|
Mae Swtan yn lle delfrydol i artistiaid a ffotograffwyr, grwpiau ac unigolion fel ei gilydd, gan fod hwn yn fwthyn unigryw mewn lleoliad o harddwch naturiol eithriadol, ger Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig lle mae morluniau gwych a machlud haul godidog. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys LLE PARCIO AM DDIM a thoiledau cyhoeddus, caffi lleol a bwyty. Cliciwch yma i anfon e-bost atom i gael mwy o wybodaeth. Trefnir gweithdai artistiaid drwy Joanne Boon Thomas – cysylltwch a hi ar www.artbyboon.co.uk |
| Last Updated on Friday, 18 June 2010 08:02 |