| Cysylltu a Lleoliad |
|
Mae Swtan wedi ei leoli ym Mhorth Swtan, sy’n lleoliad hyfryd ar arfordir gorllewinol Môn, taith o tua 15 munud o Gaergybi. Mae’r ardal o gwmpas Swtan wedi ei dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol, lle mae traethau bendigedig, morlin trawiadol, a nifer o atyniadau naturiol diddorol ac mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn mynd heibio i’r bwthyn. Felly gallwch gyfuno ymweliad â Swtan a nifer o lefydd gwych eraill yn lleol, fel:
Sut i gyrraedd Swtan o gyfeiriad y Fali Dilynwch ffordd yr A5025 drwy bentrefi Llanynghenedl a Llanfachraeth nes dod i Lanfaethlu. Yna trowch i’r chwith yn Llanfaethlu lle mae arwydd ‘Porth Swtan/Church Bay’, heibio i Dŷ Coffi Griffith Reade, ac ar ôl tua milltir a hanner byddwch yn cyrraedd Porth Swtan. Trwoch i’r chwith i gyfeiriad y traeth a dilynwch yr arwyddion GLAS fydd yn eich arwain i faes parcio wrth ymyl Swtan.
Sut i gyrraedd Swtan o Amlwch Dilynwch yr arwyddion am y Fali (A5025) o Amlwch, gan fynd drwy Borthllechog a Chemaes, a heibio i Orsaf Bŵer yr Wylfa ar yr ochr dde, nes dod i bentref Llanrhuddlad. Trowch i’r dde wrth Ysgol Cylch y Garn (arwydd ‘Porth Swtan/Church Bay’), dilynwch y ffordd heibio i bentref Rhydwyn ar y chwith a throwch i’r dde ym mhendraw’r ffordd. Ewch i lawr yr allt heibio i’r eglwys ar y dde. Gallwch weld Swtan o’r ffordd hon sy’n mynd uwchben y traeth. Dilynwch yr arwyddion am y traeth, yna dilynwch yr arwyddion GLAS fydd yn eich arwain i Swtan. Cysylltau Defnyddiol ... www.visitanglesey.co.uk/anglesey_coastal_path www.angleseywalkingfestival.com www.nationaltrust.org.uk/main/w-global/w-localtoyou/w-wales.htm www.nationaltrust.org.uk/main/w-vh/w-visits/w-findaplace/w-plasnewydd.htm www.rspb.org.uk/reserves/guide/s/southstackcliffs/index.asp www.attractionsnorthwales.co.uk/attractions/llynnon-mill www.holyheadmaritimemuseum.co.uk www.visitanglesey.co.uk/oriel_ynys_mn-22.aspx www.visitanglesey.co.uk/beaumaris_gaol-34.aspx www.visitanglesey.co.uk/south_stack_lighthouse-40.aspx www.cadw.wales.gov.uk/default.asp?id=282 http://angleseyattractions.co.uk www.menaiholidays.co.uk
|
| Last Updated on Wednesday, 21 December 2011 15:53 |