| Adfer |
|
Cwblhawyd y gwaith o adfer Swtan ym Medi 1999. Mae’r safle a’r tir o’i gwmpas yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ariannwyd y gwaith o ail-adeiladu’r bwthyn yn bennaf gydag arian o Ewrop drwy Fenter Môn. Gweithiodd crefftwyr a gweithwyr dan hyfforddiant gyda’i gilydd o dan oruchwyliaeth y rheolwr prosiect, Peter Muckle. Cwblhawyd y prosiect mewn 14 mis. Roedd y rhan fwyaf o gerrig y bwthyn gwreiddiol yn dal ar y safle a’r cyfan oedd angen i’r seiri maen ei wneud oedd ailgodi’r waliau. Aethpwyd ati i wneud hyn gan ddefnyddio clai a godwyd o gae. Hefyd defnyddiwyd calch a gro gydag ychydig o wellt a sment i’w gymysgu. Roedd yn rhaid i’r holl ddeunyddiau eraill, coed, gwellt ar gyfer y to, ffenestri a drysau gael eu prynu neu eu gwneud ar y safle. Ar ôl ei orffen, trosglwyddwyd yr adeilad i’n cwmni lleol, Cyfeillion Swtan. Mae hwn yn gwmni CCC o ymddiriedolwyr gwirfoddol sy’n prydlesu’r bwthyn gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’r cwmni’n rhedeg y bwthyn fel Amgueddfa Werin a Chanolfan Dreftadaeth ac mae wedi derbyn rhoddion megis eitemau ac offer ffermio gan bobl leol. Mae’r tu mewn yn adlewyrchu’r cyfnod o 1900-1918. Gwnaed hyn am bedwar rheswm:
|
| Last Updated on Friday, 18 June 2010 08:03 |