| Ysgolion |
|
Mae’n bosibl trefnu ymweliadau gan ysgolion i Swtan yn ystod y tymor (tu allan i amseroedd agor i’r cyhoedd). Mae Cyfeillion Swtan yn barod iawn i gefnogi’r cwricwlwm cenedlaethol lle bo’n bosibl. Yn Rhagfyr mae Swtan yn dathlu Nadolig yng nghyfnod 1900. Bydd addurniadau a bwyd traddodiadol yn cael eu harddangos a bydd cyfle i’r plant wneud crefftau a gwylio arddangosfa o deganau traddodiadol yn gweithio. Hefyd gerllaw mae Porth Swtan sy’n draeth glân, diogel a thywodlyd gyda chlogwyni a phyllau glan môr ac ati. Mae mynediad ato’n dibynnu ar y llanw wrth gwrs. Hefyd mae cyfle i weld a thrafod cimychiaid byw (a gedwir mewn tanc) drwy garedigrwydd y perchennog os bydd rhai yno. Click here i anfon e-bost atom i gael mwy o wybodaeth ynglŷn â bwcio, prisiau ac ati
|
| Last Updated on Tuesday, 25 October 2011 12:47 |
