| Hanes Swtan |
|
Er bod y bwthyn wedi ei adeiladu’n wreiddiol yn yr 16eg ganrif, mae wedi cael ei adfer i edrych fel yr oedd tua dechrau’r 20fed ganrif. Yr un teulu sydd wedi bod yn byw yn y bwthyn ers y cyfnod hwnnw. Mae Mr Gwilym Jones, y tenant olaf nes i’r to ddymchwel ar ddechrau’r 1960au, yn aelod o’r Bwrdd Ymddiriedolwyr presennol.
Cedwid y bwyd darfodus ar lechen mewn cornel lle’r oedd ffenestr i gadw’r ystafell yn oer. Yma hefyd y câi menyn ei wneud a dyna’r rheswm pam y cyfeirir at yr ystafell fel y Tŷ Llaeth. Syml iawn oedd y trefniadau cysgu - gwely cul ar y llawr isaf ac ysgol yn arwain i fyny i’r groglofft lle’r oedd gwely wensgod hir gyda matres wellt. Arferai’r siop bresennol fod yn dŷ allan a gafodd ei addasu ar un cyfnod ar gyfer lletywr.
Tai allan
Roedd yn rhaid i’r teulu dyfu’r holl lysiau oedd eu hangen. Heddiw mae gardd berlysiau fach sy’n dangos sut byddai’r perlysiau’n cael eu defnyddio wrth goginio ac ar gyfer meddyginiaethau. Mae cangen leol Sefydliad y Merched yn gofalu am yr ardal hon.
I’r dde i ddrws y bwthyn mae cwt lle cedwid ychydig o bopeth, fel offer a llysiau, drws nesa iddo mae’r cwt ieir.
|
| Last Updated on Friday, 18 June 2010 08:03 |

